Mae angen i chi osod sain ar eich Pi ar ôl rhedeg y sgript prepare.sh yn macsen/prepare-scripts
Efallai y bydd angen i chi addasu lefel y sain a/neu gynnydd mewnbwn ar gyfer y microffon, gallwch wneud hyn gyda alsamixer
.
Unwaith i’r addasiadau gael eu gwneud, gallwch gadw’r gosodiadau gan ddefnyddio alsactl store
.
Os oes gwall yn eich ffeil cofnodi yn cwyno am alsaaudio efallai y bydd angen i chi chwarae o gwmpas gyda’ch gosodiad sain. Gall y gwallau fod y rhai hyn:
‘dyfais_fewnbynnu’ annilys yn y ffurfweddiad:
alsaaudio.ALSAAudioError: Dim y fath ffeil neu gyfeiriadur [plughw:1]
Gwiriwch enw eich dyfais mewnbynnu cerdyn sain. Mae dewis y ddyfais ragosodedig ar gyfer mewnbwn a / neu allbwnyn gweithio yn aml.
Gallwch ddefnyddio’r gorchmynion hyn i weithio allan enwau eich dyfais:
arecord -L
aplay -L
Os na fedrwch chi am ryw reswm ddefnyddio enw o’r rhestr, defnyddiwch yr opsiwn ‘override config’. Fel arall, cadwch at yr enwau sy’n cael eu rhestru. option.
I restru eich cardiau sain, defnyddiwch
aplay -l
arecord -l
Mae rhaglen arall yn defnyddio eich dyfais:
alsaaudio.ALSAAudioError: Dyfais neu adnodd yn brysur [plughw:1]
aplay /usr/share/sounds/alsa/Front_Center.wav
arecord -D yourdevice test.wav
- allan gyda CTRL+C a aplay test.wav
Mae gan y safle hwn wybodaeth dda am alsa: http://www.volkerschatz.com/noise/alsa.html
Mae angen creu proffil ar gyfer Macsen cyn ei redeg am y tro cyntaf, er mwyn iddo wybod eich enw ac ati. Rhedwch y sgript ganlynol ac atebwch y cwestiynau
$ python client/populate.py
Ar ôl ateb pob cwestiwn, mae modd cychwyn Macsen drwy redeg
$ python jasper.py
Theme based on jasperproject.github.io. Icons from Noun Project.
Project based on jasper-client Copyright (c) 2014-2015, Charles Marsh, Shubhro Saha & Jan Holthuis. All rights reserved.