Canllaw caledwedd

Ar hyn o bryd mae Macsen yn gweithio’n benodol ar y Raspberry Pi (Model B). Bydd angen rhywfaint o galedwedd ychwanegol arnoch, e.e. addasydd WiFi a microffon USB. Mae’r galedwedd rydym yn ei hargymell yn cael ei rhestru isod, gyda dolenni ar gyfer manylion pellach. Efallai y byddwch yn ceisio defnyddio brandiau / mathau ychydig yn wahanol o galedwedd, ond ni allwn warantu y bydd Macsen yn gweithio gyda nhw. Nid yw Macsen yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r gwerthwyr caledwedd a enwir.

Y Rhestr Gyflawn

Gall y Raspberry Pi Verified Peripherals List fod yn ddefnyddiol i chi i ddod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle’r cynhyrchion a argymhellir uchod.

Cydosod

Mater syml yw gosod y darnau at ei gilydd. Cysylltwch y microffon, cerdyn SD, addasydd di-wifr (os oes gennych un), cebl micro-USB, cebl Ethernet, a’r seinyddion wrth y Raspberry Pi. Argymhellir defnyddio’r addasydd USB sy’n gwefru ar y wal i bweru Macsen fel dyfais ar ei phen ei hun.

Defnyddir y cebl Ethernet i fewngofnodi i’r Pi o gyfrifiadur arall wrth osod y feddalwedd. Ar ôl y broses osod, os yw’n well gennych ddefnyddio cysylltiad di-wifr, gallwch gael gwared ar y cebl hwn.

Cysylltiad rhyngrwyd

Fel y soniwyd uchod, mae’r addasydd di-wifr yn ddewisol. Mae Macsen yn rhedeg yn iawn ar gysylltiad gwifrog (drwy Ethernet), felly gallwch ddewis rhwng y ddau opsiwn (gwifrog neu ddi-wifr) yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi.


                            

Theme based on jasperproject.github.io. Icons from Noun Project.

Project based on jasper-client Copyright (c) 2014-2015, Charles Marsh, Shubhro Saha & Jan Holthuis. All rights reserved.