Defnyddio Macsen

Dechrau Macsen

Ar ôl Ffurfweddu Macsen, gallwch ddechrau Macsen drwy deipio:

python jasper.py

Gallwch hefyd ddechrau Jasper yn awtomatig bob tro mae’r cyfrfifiadur yn ailgychwyn. I wneud hynny, -e crontab -e, yna ychwanegwch y llinell ganlynol, os nad yw yno yn barod (N.B. bydd angen i chi defnyddio lleoliad cywir eich gosodiad Macsen)

@reboot /home/pi/macsen/jasper.py;

Ailgychwynnwch y Raspberry Pi

Rhyngweithio gyda Macsen

Y ffordd fwyaf cyffredin o siarad â Macsen yw drwy ddefnyddio’r dilyniant canlynol:

  • chi: “Macsen”
  • Macsen: biip uchel
  • chi: siarad eich gorchymyn
  • Macsen: biip isel
  • Macsen: yn siarad yr ymateb

Ar ôl dweud Macsen, rhaid i chi aros am y sain uchel cyn siarad eich gorchymyn. Os nad ydych yn dweud y gorchymyn o fewn ychydig eiliadau, bydd Macsen rhoi’r gorau i wrando neu yn gofyn i chi ailadrodd eich gorchymyn.

Modiwlau i roi cynnig arnyn nhw

Rydym wedi rhagosod y modiwlau canlynol o fewn meddalwedd Macsen er mwyn dangos beth all Macsen wneud:

  • Amser: “FAINT O’R GLOCH YW HI?” “BETH YW’R AMSER?” “BETH YDI’R AMSER?”
  • Newyddion: “BETH YW’R NEWYDDION?” “BETH YDI’R NEWYDDION?”
  • dihareb : “RHO DDIHAREB I MI”
  • Tywydd: “BETH YW’R TYWYDD HEDDIW” “BETH YDI’R TYWYDD HEDIW?”

Os bydd Macsen yn cael anhawster i glywed eich ciwiau, ceisiwch symud y microffon yn bellach oddi wrth y seinyddion, gostwng lefel y sain, a / neu siarad yn nes at y microffon.


                            

Theme based on jasperproject.github.io. Icons from Noun Project.

Project based on jasper-client Copyright (c) 2014-2015, Charles Marsh, Shubhro Saha & Jan Holthuis. All rights reserved.