Defnyddir yr ap Paldaruo i gasglu, neu dorfoli (‘crowdsource’), recordiadau gan wahanol unigolion yn siarad Cymraeg. Mae’r recordiadau yn cael eu cadw o fewn corpws lleferydd Paldaruo. Mae’r corpws hyd yn hyn yn cynnwys tua 34 awr o recordiadau gan bron i 500 unigolyn ar gyfer hyfforddi’r systemau adnabod lleferydd Cymraeg oddi fewn i Macsen.
Ond rydyn ni angen mwy o recordiadau, gan fwy o unigolion, er mwyn gwella graddfa cywirdeb yr adnabod lleferydd ac ehangu’r mathau o destunau a chwestiynau mae’n eu hadnabod.
Dyma fideo ar sut i’w ddefnyddio:
Gweler ein Tudalen Adnabod Lleferydd am ragor o fanylion am gydrannau ac adnoddau adnabod lleferydd Cymraeg Macsen a’r Porth Technolegau Iaith.
Theme based on jasperproject.github.io. Icons from Noun Project.
Project based on jasper-client Copyright (c) 2014-2015, Charles Marsh, Shubhro Saha & Jan Holthuis. All rights reserved.